



2.7 Sut mae aelodau'n cael eu hethol
Gelwir y ffordd rydyn ni'n dewis y bobl sy'n ein cynrychioli yn y llywodraeth yn system bleidleisio. Gallwch wylio'r fideo hwn i ddysgu mwy am sut mae system bleidleisio Cymru yn gweithio.
Mae yna lawer o wahanol fathau o system bleidleisio - yng Nghymru a'r DU mae gwahanol fathau o etholiadau'n defnyddio gwahanol systemau pleidleisio. Gall sut mae system yn gweithio effeithio ar sut mae pobl yn pleidleisio, sut mae pleidiau gwleidyddol yn ymgyrchu a sut mae enillwyr etholiad yn cael eu penderfynu.
Ar gyfer etholiadau'r Senedd, mae Aelodau'r Senedd (neu ASau) yn cael eu hethol gan ddefnyddio'r system bleidleisio 'Rhestr Gyfrannol Gaeedig' . Mae hon yn system wahanol i'r un a ddefnyddiwn mewn etholiadau ar gyfer Aelodau Seneddol (ASau) y DU, a elwir yn 'Y Cyntaf i'r Felin'.
Yn y system Rhestr Gyfrannol Gaeedig, rydych chi'n pleidleisio dros blaid yn hytrach nag ymgeisydd, er y gallwch chi barhau i bleidleisio dros ymgeiswyr annibynnol yn uniongyrchol. Bydd pleidleiswyr yn bwrw un bleidlais dros y blaid neu ymgeisydd annibynnol.
Mae pleidiau'n cyflwyno rhestr o ymgeiswyr ar gyfer pob etholaeth. Mae'r pleidiau'n rhestru'r ymgeiswyr yn nhrefn eu blaenoriaeth - y person maen nhw fwyaf eisiau iddo gael sedd yw rhif 1, yr ail rhif 2 ac yn y blaen. Mae'r rhestrau'n 'gauedig' - mae hyn yn golygu na all pleidleiswyr newid trefn yr ymgeiswyr hynny.

Sut mae'r enillwyr yn cael eu penderfynu yn etholiadau Cymru?
I weithio allan pwy sy'n cael ei ethol yn system y Rhestr Gyfrannol Gaeedig , mae etholiadau'r Senedd yn defnyddio'r hyn a elwir yn fformiwla D'Hondt .
Mae fformiwla D'Hondt yn cyfrifo nifer y seddi y mae plaid yn eu hennill mewn etholaeth yn seiliedig ar gyfran y pleidleisiau a dderbyniwyd ganddynt. Defnyddir y fformiwla i geisio gwneud nifer y seddi y mae plaid yn eu derbyn yn gymesur yn fras â chyfran y bleidlais a enillwyd ganddynt.
Dyma ragor o wybodaeth am ddull D'Hondt a sut mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer etholiadau'r Senedd yma

