



2.2 Hanes y Senedd
Dyma fideo sy'n egluro hanes y Senedd, o'i ddechreuadau cynnar i Senedd Cymru fodern fel y mae heddiw.
Ym 1997, cynhaliwyd refferendwm ynghylch a ddylid trosglwyddo rhai pwerau gwneud penderfyniadau o Senedd y DU i lefel newydd o lywodraeth yng Nghymru. Gelwir y rhannu pŵer hwn yn ddatganoli - pan fydd pŵer neu awdurdod yn cael ei drosglwyddo o lywodraeth ganolog i lefel is o lywodraeth.
Pleidleisiodd pobl Ie dros y datganoli hwn, fel y gallai pobl Cymru wneud deddfau, ar gyfer Cymru. Arweiniodd hyn at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999.
Yn wreiddiol, roedd pwerau'r Cynulliad yn gyfyngedig. Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae pwerau deddfu pellach wedi'u datganoli. Yn 2020 newidiodd enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Senedd Cymru.
Marcio fel wedi'i gwblhau
Byddwch yn cael eich ailgyfeirio yn fuan!
Diolch! Mae eich cyflwyniad wedi'i dderbyn!
Oops! Aeth rhywbeth o'i le wrth gyflwyno'r ffurflen.
Nesaf

