Ynglŷn â The Politics Project

Credwn pan fydd pobl ifanc yn teimlo eu bod yn wybodus, yn cael eu grymuso, a'u bod yn cael eu clywed, eu bod yn dod yn gyfranogwyr pwerus mewn democratiaeth. Rydym ni yn bodoli i helpu i wneud i hynny ddigwydd.

Pwy ydym ni

Mae The Politics Project yn sefydliad addysg ac ymgysylltu democrataidd amhleidiol sy'n gweithio i sicrhau bod gan bob person ifanc y wybodaeth, yr hyder a'r cyfle i ddefnyddio eu llais.

Wedi'i sefydlu yn 2015, rydym yn gweithio ledled y DU i ddarparu addysg ddemocrataidd o'r safon uchaf, wedi'i theilwra i anghenion gwahanol gymunedau a chyd-destunau. Rydym yn cefnogi athrawon, gweithwyr ieuenctid, gwleidyddion – ac yn bwysicaf oll, pobl ifanc – i ymgysylltu'n ystyrlon â gwleidyddiaeth a democratiaeth.

Rydym yn falch o gynnull y Democracy Classroom Network – cymuned genedlaethol o addysgwyr ac ymarferwyr sydd wedi ymrwymo i rymuso pobl ifanc i ddeall a chymryd rhan mewn democratiaeth.

Beth rydyn ni'n ei wneud

Rydym yn arbenigo mewn cynnal sgyrsiau pwerus sy'n meithrin perthnasoedd, yn gwella dealltwriaeth, ac yn arwain at newid go iawn o fewn ein cymunedau.

Drwy ein rhaglenni, hyfforddiant ac adnoddau, rydym yn helpu i feithrin yr ymddiriedaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i gymryd rhan mewn democratiaeth. Wrth gefnogi athrawon i gyflwyno gwersi dinasyddiaeth, helpu gweithiwr ieuenctid i archwilio materion cyfoes, neu wrth baratoi gwleidydd i gwrdd â'i etholwyr ieuengaf, mae ein gwaith wedi'i gynllunio i rymuso pobl ifanc i deimlo eu bod yn cael eu clywed.

Mae ein ffordd o weithio yn gydweithredol, yn gynhwysol, a phob amser yn amhleidiol.

37%
18-24
73%
65+
Canran y pleidleiswyr a bleidleisiodd yn Etholiad Cyffredinol 2024 yn ôl oedran (%)

Pam mae'n bwysig

Weithiau mae hi'n teimlo fel pe bai pobl ifanc wedi rhoi’r gorau ar boeni am wleidyddiaeth a bod gwleidyddiaeth wedi rhoi’r gorau ar ofalu amdanyn nhw. Mae'r canran isel o bobl ifanc sy’n pleidleisio a'u diffyg ymgysylltiad ystyrlon gyda'r bobl sydd yn gwneud penderfyniadau drostynt wedi cyfrannu at ymdeimlad cynyddol o ddadrithiad a datgysylltiad.

Ond y gwir yw bod pobl ifanc yn poeni am y materion sy'n effeithio ar eu bywydau. Maen nhw'n malio'n fawr am y materion sy'n llunio eu bywydau. Yr hyn sydd yn aml ar goll yn aml yw'r cyfle, y wybodaeth, yr hyder, neu'r gefnogaeth i allu ymgysylltu â phrosesau gwleidyddol a phobl mewn pŵer.


Arianwyr a chefnogwyr

Prifysgol Manceinion
Prifysgol Caerwysg
Prifysgol Caergrawnt
The Young Foundation
Save the Children
Ysgol Entrepreneuriaid Cymdeithasol
Cymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol
Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree
Ymddiriedolaeth Diwygio Joseph Rowntree
Senedd y DU
Llywodraeth Cymru
Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau
Cymdeithas Llywodraeth Leol
Awdurdod Llundain Fwyaf
Comisiwn Etholiadol
Cronfa Democratiaeth
Sefydliad y Coop
Llyfrgell Brydeinig