Rhaglenni

Drwy gysylltu ystafelloedd dosbarth, cymunedau a gwneuthurwyr newid, rydym yn helpu pobl ifanc i deimlo eu bod yn wybodus, wedi'u grymuso a'u clywed — fel y gallant ddod yn gyfranogwyr gweithredol mewn democratiaeth.

Archwiliwch ein rhaglenni

Deialog Ddigidol

Mae'r rhaglen Deialog Ddigidol yn cefnogi athrawon i gyflwyno gweithdai diddorol ac yn cysylltu myfyrwyr a gwleidyddion trwy lwyfannau fideo-gynadledda. Mae'r rhaglen yn hwyluso sgyrsiau ystyrlon sy'n arwain at newidiadau pendant mewn cymunedau.

Deialog Ddigidol: UDA

Mae Deialog Ddigidol: UDA yn rhan o raglen y Gyngres i'r Campws yn y DU, sy'n dod â chyn-Aelodau Cyngres yr Unol Daleithiau i'r DU i ymgysylltu â myfyrwyr a chynulleidfaoedd ehangach mewn sgyrsiau am wleidyddiaeth gyfoes yr Unol Daleithiau.

Deialog Ddigidol: Cymru

Mae Deialog Ddigidol: Cymru yn helpu athrawon i baratoi dysgwyr ar gyfer y sgyrsiau drwy gyflwyno gweithdai deniadol gydag adnoddau dysgu. Maehyn yn grymuso dysgwyr i ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus o Gymru a'r byd, gan gefnogi un o bedwar diben craidd Cwricwlwm i Gymru yn uniongyrchol.

Cynnal Hystings Cymru

Mae Hystings Ieuenctid yn darparu llwyfan i bobl ifanc 14–25 oed ymgysylltu’n uniongyrchol ag ymgeiswyr etholiadol yn etholiadau Cymru. Maent yn rhoi cyfle i bobl ifanc ofyn cwestiynau, lleisio eu barn, a chymryd rhan mewn deialog ystyrlon yn y cyfnod cyn pleidleisiau lleol a chenedlaethol. Gellir cynnal hein yn bresennol neu ar-lein.

Adeiladu ar gyfer y Bleidlais

Mae Adeiladu ar gyfer y Bleidlais yn rhaglen beilot i gefnogi Colegau Addysg Bellach i baratoi eu myfyrwyr ar gyfer ymgysylltu democrataidd. Wrth i bobl 16 a 17 oed ymuno â'r etholaeth am y tro cyntaf, mae angen adnoddau a chefnogaeth ar Golegau Addysg Bellach i sicrhau bod eu myfyrwyr wedi'u paratoi'n llawn ar gyfer bywyd democrataidd.