Deialog Ddigidol: Cymru

Mae Deialog Ddigidol: Cymru yn cefnogi dysgwyr ledled Cymru i gael sgyrsiau ystyrlon gyda'u cynrychiolwyr etholedig.

Ynglŷn â'r rhaglen

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r rhaglen yn cefnogi dysgwyr i gymryd rhan mewn sesiynau Deialog gyda'r gwleidyddion sy'n eu cynrychioli, gan feithrin ymddiriedaeth a pherthnasoedd ar y ddwy ochr a rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen ar bobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Mae'r rhaglen yn rhad ac am ddim i ysgolion. 

Mae Deialog Ddigidol: Cymru yn helpu athrawon i baratoi dysgwyr ar gyfer y sgyrsiau hynny drwy gyflwyno gweithdai deniadol gydag adnoddau dysgu sy'n grymuso dysgwyr i ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus o Gymru a'r byd, gan gefnogi yn uniongyrchol un o bedwar diben craidd y Cwricwlwm i Gymru.

Dysgwch fwy am effaith Deialog Ddigidol: Cymru.

5550
Dysgwyr wedi'u hymgysylltu
135
Athrawon wedi'u hyfforddi a'u cefnogi
130
Gwleidyddion a gymerodd ran
“Teimlais ei fod wedi pontio’r bwlch rhyngddyn nhw a ni a chawsom gyfle i gyfathrebu a sylweddoli ein bod ni i gyd yn gallu dod at rywun a all wneud newidiadau.”
—Dysgwr yn Ysgol Uwchradd Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr

Sut mae'n gweithio

Mae Deialog Digidol Cymru yn cymryd pedair awr addysgu i'w chyflwyno; tair awr o weithdai ac yna sesiwn Deialog awr o hyd. Cyflwynir y rhaglen fel a ganlyn:

Athrawes yn ysgrifennu ar fwrdd sialc
1

Rydym yn hyfforddi athrawon i gyflwyno'r rhaglen, gan eu cefnogi i ddatblygu: hyder a sgiliau i gyflwyno addysg ddemocrataidd amhleidiol a datblygu arfer augorau wrth gefnogi

Ystafell ddosbarth yn llawn myfyrwyr gydag athro yn siarad
2

Mae athrawon yn defnyddio ein hadnoddau i gyflwyno tair awr o weithdai i'w myfyrwyr. Mae'r adnoddau'n cefnogi pobl ifanc i archwilio materion cymdeithasol a gwleidyddol, ymchwilio i'r gwleidyddion y byddant yn ymgysylltu â nhw a pharatoi cwestiynau ar gyfer eu sesiynau Deialog.

Menyw ar sgrin gliniadur
3

Rydym yn trefnu ac yn cynnal sesiynau Deialog Ddigidol, gan gysylltu myfyrwyr â gwleidyddion drwy Teams, Zoom neu blatfform tebyg. Gallwn hefyd drefnu sesiynau Deialog wyneb yn wyneb os yw athrawon yn dymuno.

Darlun o ddogfen addewid
4

Pan fydd gwleidydd yn cynnig gwneud rhywbeth ar ran pobl ifanc yn ystod Deialog, rydym yn ei gofnodi hyn fel “Addewid”. Yna byddwn yn cysylltu â’r gwleidydd a’r ysgol i gefnogi’r gwleidydd i gyflawni’r addewid.

"Mae cymryd rhan yn y rhaglen hon wedi cryfhau fy nghysylltiad â phobl ifanc ac ysgolion yn fy etholaeth. Mae wedi rhoi cyfle gwerthfawr i glywed yn uniongyrchol gan fyfyrwyr am y materion sydd bwysicaf iddyn nhw, gan helpu i lywio fy ngwaith fel Aelod o'r Senedd."
—James Evans, Aelod o'r Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed

Deialogau Arweinydd

Mae Deialogau Arweinwyr yn sisiynau Deialog unigryw sy'n digwydd unwaith y flwyddyn ble mae dysgwyr o sawl ysgol ledled Cymru yn cael gofyn cwestiynau a thrafod materion pwysig gydag arweinwyr y bleidiau yn y Senedd.  

Fel arfer, cynhelir Deialogau Arweinwyr yn nhymor yr Hydref. Gallwch ddysgu mwy am ein sesiynau Deialog Arweinwyr blaenorol yma.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn unig, cwblhewch y ffurflen mynegiant diddordeb hon.

Cofrestrwch

I gymryd rhan yn Deialog Ddigidol: Cymru, mae ond angen i chi lenwi ein ffurflen Mynegi Diddordeb. Mae'r rhaglen yn rhad ac am ddim. Os ydych chi'n gweithio yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, gallwch gael mynediad at gymorth drwy'r rhaglen Deialog Ddigidol ehangach .

Mae hyn yn cynnwys:

 

DPP a chefnogaeth bersonol i'ch galluogi chi a'ch cydweithwyr i gyflwyno'r rhaglen.

 

Mynediad i sesiynau Deialog gyda gwleidyddion lleol.

 

Mynediad i'r sesiynau Deialog Arweinydd.

 

Adnoddau dysgu yn y Gymraeg a'r Saesneg.

 

Hysbysiad cynnar o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig, fel ein rhaglen Deialog Ddigidol UDA.

Diddordeb?
Gallwch gofrestru yma!

Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i ffurflen Mynegi Diddordeb. Dim ond 2 funud y mae'n ei gymryd i'w llenwi, a bydd aelod o'n tîm yn cysylltu â chi.