



2.6 Esbonio beth mae lefelau llywodraeth yn ei wneud yng Nghymru
Gyda llywodraethau lleol, datganoledig a'r DU yn gwneud penderfyniadau yng Nghymru, gall fod yn aneglur weithiau pwy sy'n gyfrifol am beth.
Y ffordd hawsaf o helpu pobl ifanc i ddeall pa bwerau sydd gan ba lefel o lywodraeth yw rhoi enghreifftiau ymarferol iddyn nhw o'r cyfrifoldebau hynny.
Dewis enghreifftiau o gyfrifoldebau llywodraeth
Dewiswch sawl mater neu faes polisi gwahanol y mae gwahanol lefelau o lywodraeth yn gyfrifol amdanynt. Dyma rai enghreifftiau y gallech eu defnyddio:
- Gweithredu milwrol
- Casglu ailgylchu a gwastraff
- Cysylltiadau trafnidiaeth ledled Cymru
- Iechyd / GIG
- Llyfrgelloedd lleol
Efallai yr hoffech ddefnyddio materion sydd wedi bod yn y newyddion neu yr ydych chi'n teimlo sydd o ddiddordeb i'ch dysgwyr.
Yna gall dysgwyr drafod pa lefel o lywodraeth sy'n gyfrifol am bob mater. Ar gyfer rhai meysydd efallai y bydd rhywfaint o groesi cyfrifoldeb rhwng gwahanol lefelau o lywodraeth. Er enghraifft, mae llywodraeth leol yn gyfrifol am gasglu ailgylchu a gwastraff, ond gall y Senedd gyflwyno rheolau llymach ynghylch ailgylchu y bydd yn rhaid i lywodraeth leol eu dilyn.
Mae enghreifftiau ymarferol yn dangos i ddysgwyr yr effaith y mae penderfyniadau a gymerir ar wahanol lefelau o lywodraeth yn ei chael ar eu bywydau a'u cymunedau.

