



3.1 Pam mae cofrestru i bleidleisio yn bwysig?
Yn y DU, os nad ydych chi'n cofrestru i bleidleisio yna ni allwch chi bleidleisio mewn etholiadau, ond nid yw pawb yr un mor debygol o fod ar y gofrestr etholiadol.
Mae pobl ifanc yn llawer llai tebygol o gael eu cofrestru na grwpiau oedran hŷn.
Yn 2023 dim ond 60% o bobl 18–19 oed oedd wedi cofrestru i bleidleisio o'i gymharu â 96% o bobl 65 oed a hŷn.

Y tu hwnt i oedran, mae patrymau eraill hefyd, gyda rhai cymunedau yn gyson yn llai tebygol o ymddangos ar y gofrestr etholiadol:
Mae pobl sy'n byw mewn tai rhent yn llawer llai tebygol o fod wedi cofrestru na pherchnogion tai, gyda 95% o berchnogion tai wedi cofrestru, o'i gymharu â 65% o rentwyr preifat.

Mae pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig hefyd yn llai tebygol o fod wedi cofrestru. Mae 87% o bleidleiswyr cymwys gwyn wedi cofrestru, o'i gymharu ag 80% o bleidleiswyr cymwys Asiaidd, 72% o bleidleiswyr cymwys Duon, 72% o bleidleiswyr cymwys o ethnigrwydd cymysg, a 71% o bleidleiswyr cymwys o ethnigrwydd eraill.

Gall pobl anabl a phobl nad ydynt yn ddinasyddion y DU sydd â hawliau pleidleisio wynebu heriau ychwanegol wrth lywio'r system. Er enghraifft, mae 87% o bleidleiswyr cymwys o'r DU a Gweriniaeth Iwerddon wedi cofrestru, o'i gymharu â 66% o'r Gymanwlad a'r Undeb Ewropeaidd.

Yn aml, mae hyn oherwydd rhwystrau ymarferol. Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o symud yn aml, byw mewn tai a rennir, neu dybio eu bod eisoes wedi cofrestru. Efallai na fydd eraill yn sylweddoli eu bod yn gymwys, neu'n gweld y broses yn ddryslyd neu'n anhygyrch.
Dyna pam mae cymorth cofrestru pleidleiswyr yn bwysig. Mae helpu pobl ifanc i ddeall sut a phryd i gofrestru – a gwneud iddo deimlo'n syml, yn berthnasol ac yn gyraeddadwy – yn un o'r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud.

Pam mae cofrestru'n bwysig
Mae cofrestru yn gam cyntaf hanfodol ar gyfer cymryd rhan mewn prosesau democrataidd – ni allwch bleidleisio os nad ydych wedi cofrestru.
Mae cofrestru hefyd yn helpu gyda phethau fel:
- Eich sgôr credyd – mae bod ar y gofrestr etholiadol yn helpu benthycwyr i gadarnhau eich hunaniaeth a'ch cyfeiriad, sy'n gwella'ch sgôr credyd.
- Gwneud cais am forgais – mae bod ar y gofrestr etholiadol yn dangos sefydlogrwydd ac yn gwneud gwiriadau'n gyflymach, gan roi hwb i'ch siawns o gael cymeradwyaeth.
- Cael eich galw i wasanaethu ar reithgor – y gofrestr yw'r rhestr swyddogol a ddefnyddir i ddewis pobl ar hap ar gyfer gwasanaethu ar reithgor.

