



3.7 Adnoddau dan sylw: Gêm y Bin Papur
Dyma weithgaredd syml y gallwch chi ei gynnal gyda phobl ifanc i'w helpu i archwilio rhai o'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gofrestru i bleidleisio.
Amser Angenrheidiol: 15–20 munud
Beth fydd ei angen arnoch chi:
- Bin (neu flwch)
- Papur sgrap (1 darn i bob cyfranogwr – dyma eu 'pleidlais')
- Lle i gyfranogwyr sefyll mewn llinell
- Graff yn dangos cofrestru pleidleiswyr yn ôl oedran (wedi'i gynnwys yn y pecyn adnoddau)
Diben:
Er mwyn helpu pobl ifanc i ddeall bod cyfraddau cofrestru isel ymhlith eu grŵp oedran yn aml oherwydd rhwystrau ymarferol a strwythurol – nid diffyg diddordeb. Mae'r gêm yn dangos yr heriau hyn mewn ffordd gorfforol, gofiadwy.
Sut mae'n gweithio:
Un: Dangoswch y graff
- Cyflwynwch y graff sy'n dangos sut mae cofrestru pleidleiswyr yn cynyddu gydag oedran – dim ond 16% o bobl 16–17 oed sydd wedi cofrestru, o'i gymharu â 96% o bobl 65 oed a hŷn.

Dau: Neilltuo grwpiau oedran
- Neilltuwch gategori oedran o'r siart i bob cyfranogwr (neu grŵp bach): 16–17, 18–19, 20–24, 25–34, 35–44, 45–54, 55–64, 65+
Tri: Gosod y gêm
- Rhowch y bin ar un pen o'r ystafell
- Rhewch y cyfranogwyr mewn llinell, gan roi un “bleidlais” i bawb (papur sgrap)
- Mae'r grŵp hynaf yn sefyll agosaf at y bin
- Mae pob grŵp iau yn cymryd cam yn ôl – y rhai ieuengaf sydd bellaf i ffwrdd
- Mae pawb yn ceisio taflu eu "pleidlais" i'r bin
Pedwar: Hwyluso trafodaeth
Gofynnwch gwestiynau fel:
- Beth wnaeth hyn yn haws neu'n anoddach i wahanol bobl?
- Pa rwystrau sy'n bodoli i bobl ifanc mewn bywyd go iawn?
- Beth allai lefelu'r cae chwarae?
Trafodwch faterion go iawn fel symud tŷ, diffyg dogfen adnabod, addysg wleidyddol gyfyngedig, neu deimlo'n ddatgysylltiedig â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau.
Pump: Cymryd Camau Gyda'n Gilydd
- Defnyddiwch y drafodaeth fel man cychwyn i gefnogi cofrestru. Os yw pobl ifanc yn gymwys, helpwch nhw i gofrestru i bleidleisio ar unwaith yn: gov.uk/register-to-vote
Trowch drwy sleidiau’r gweithdy yma:

