Ynglŷn â'r rhaglen

Beth yw Deialog Ddigidol: Cymru?

Mae Deialog Ddigidol: Cymru yn cefnogi pobl ifanc i gael sgyrsiau ystyrlon gyda'r gwleidyddion sy'n eu cynrychioli, gan feithrin ymddiriedaeth a pherthnasoedd ar y ddwy ochr.   

Mae pobl ifanc yn datblygu'r dealltwriaeth, y sgiliau a'r hyder i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd drwy ryngweithio â'u cynrychiolwyr etholedig. Mae'r rhyngweithiadau hyn yn digwydd ar-lein ac yn bersonol, mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru.  

Mae Deialog Ddigidol: Cymru yn cymryd pedair awr i'w chyflwyno, gyda thair awr wedi'u neilltuo i weithdai ac un awr i gyflwyno Deialog. Mae'n cefnogi un o bedwar diben y Cwricwlwm i Gymru - cefnogi dysgwyr i ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus o Gymru a'r byd. Ariennir y rhaglen gan Gronfa Ymgysylltu Democrataidd Llywodraeth Cymru.

Dysgwyr yn Ysgol Gynradd Willowtown yn cwrdd â'r AS Nick Smith.
Dysgwyr yn Ysgol Gynradd Willowtown yn siarad â'r AS Nick Smith
Ysgol Gynradd Willowtown. (2024)

Pam mae ei angen?

Ar draws Gymru, mae dal i fod anghydraddoldeb enfawr rhwng nifer y bobl ifanc a'r nifer o henoed sy'n cymryd rhan yn y system ddemocrataidd. Yn Etholiad Cyffredinol y DU yn 2024, pleidleisiodd 37% o bobl 18-25 oed y DU, mewn cyferbyniad â 73% o bobl dros 65 oed (Ipsos, 2024). Mae llai na hanner y bobl ifanc yng Nghymru yn dweud eu bod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth a dim ond 15% sy'n nodi eu bod yn gwybod llawer am yr hyn y mae'r Senedd yn ei wneud (Y Comisiwn Etholiadol, 2025).

Mae'r bwlch hwn yn golygu bod pobl ifanc yn parhau i gael eu tangynrychioli yn y broses o wneud penderfyniadau, sy'n arwain at anghydraddoldebau sy'n seiliedig ar oedran. Mae ein hymchwil ein hunain yn dangos chwalfa yn y berthynas rhwng pobl ifanc a gwleidyddion. Fe wnaethon ni ganfod mai dim ond: 

34
%
o bobl ifanc yn ymddiried mewn gwleidyddion
31
%
teimlo bod gwleidyddion yn poeni am beth mae pobl ifanc yn ei feddwl a…
32
%
meddwl bod gwleidyddion yn eu cynrychioli. 

Mae hyn yn effeithio ar barodrwydd pobl ifanc i ymgysylltu â strwythurau democrataidd traddodiadol, ac yn lleihau eu cymhelliant i ymgysylltu â gwleidyddiaeth sy'n ymddangos ffel rhywbeth nad yw'n gweithio iddynt. Yna caiff pobl ifanc eu heithrio rhag pŵer oherwydd eu diffyg ymgysylltiad â strwythurau gwleidyddol ffurfiol.

Un o'r ymgysylltiadau mwyaf cyffredin rhwng dysgwyr a gwleidyddion yw'r 'ymweliad ysgol'. Yn ein profiad ni, gwelom ni'r cyfleoedd yma yn cael eu tanddefnyddio, gyda gwleidyddion ac ysgolion yn aml yn eu gweld nhw fel dim mwy na chyfleoedd i dynnu llun. Er mai dyma'r dull ymgysylltu mwyaf cyffredin, dim ond 5% o ysgolion sy'n cael ymweliad gan wleidydd (Weinberg, 2020).

Mae Deialog Ddigidol: Cymru yn ailddychmygu'r ymgysylltiadau hyn, gan roi cyfle i ddysgwyr a gwleidyddion ymgysylltu'n ystyrlon â'i gilydd, gan feithrin perthnasoedd cadarnhaol a drwy cynyddu ymddiriedaeth. Mae ymchwil yn dangos bod ymgysylltiad democrataidd yn cael ei gryfhau gan ymddiriedaeth mewn systemau gwleidyddol a chynrychiolwyr etholedig (Kolpinskaya a Bennett, 2024). Rydyn ni eisiau i bobl ifanc yng Nghymru gael eu cymell i gymryd rhan weithredol mewn bywyd democrataidd.

Ein gwaith hyd yn hyn

Yn 2021 fe wnaethom ddatblygu a chynnal peilot llwyddiannus o Deialog Ddigidol: Cymru, gan gyflwyno 8 sesiwn Deialog gyda 6 glweidydd i 91 o ddysgwyr ysgol uwchradd. 

Ar ôl y cynllun peilot, ehangwyd y rhaglen yn 2022, gan gyflwyno 72 o sesiynau Deialog a chefnogi 1333 o ddysgwyr i siarad â 48 o wleidyddion. Hyfforddwyd a chefnogwyd 48 o athrawon i gyflwyno'r rhaglen. Ymunodd dysgwyr ysgolion cynradd gyda'r rhaglen am y tro cyntaf, gyda dwy ysgol gynradd yn cymryd rhan. Fe wnaethom hefyd gyflwyno 'Deialogau Arweinwyr' - Deialogau a oedd yn caniatáu i ddysgwyr o bob cwr o Gymru siarad ag arweinwyr y pleidiau yn y Senedd.  

Dysgwyr mewn deialog ar-lein gydag MS Sam Rowlands.
Dysgwyr yn Ysgol Maelor mewn sgwrs gyda MS Sam Rowlands
Ysgol Maelor. (2023).

2023 i 2025 - Adeiladu ar lwyddiant

Yn 2023, cawsom gyllid drwy Gronfa Ymgysylltu Democrataidd Llywodraeth Cymru i ehangu Deialog Ddigidol: Cymru ymhellach, gyda'r nod o gyflwyno 160 o sesiynau Deialog a chefnogi 4000 o ddysgwyr i gael rhyngweithiadau ystyrlon gyda 100 o wleidyddion. Byddai 80 o athrawon cynradd, uwchradd, colegau ac yn cael eu hyfforddi a'u cefnogi.

Yn ogystal â chynyddu cyrhaeddiad y rhaglen, byddem hefyd yn archwilio gwahanol fformatau i gefnogi pobl ifanc i ymgysylltu â gwleidyddion a pharhau i ddatblygu ein sesiynau Deialog Arweinydd. Byddai hustyngau ieuenctid yn elfen newydd o'r rhaglen, a fyddai'n cael eu cyflwyno yn y cyfnod cyn Etholiad Cyffredinol y DU. 

Mae'r adroddiad hwn yn rhannu effaith y rhaglen ers 2023.

Vikki Howells MS yn ateb cwestiwn gan ddysgwyr yn Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr

Cefnogi polisi cyfranogiad democrataidd

Mae Deialog Ddigidol: Cymru yn cefnogi darpariaeth Cwricwlwm i Gymru drwy gefnogi pobl ifanc i gydnabod eu hawliau a'u cyfrifoldebau democrataidd yn unol â'r diben “dinasyddion moesegol, gwybodus”, yn y Cwricwlwm i Gymru. 

Mae'r rhaglen yn cefnogi Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) drwy gefnogi gwleidyddion i ystyried a thrafod effaith hirdymor eu penderfyniadau ar genedlaethau'r dyfodol. Mae Deialog Ddigidol: Cymru hefyd yn cefnogi ymestyn y fasnachfraint i bobl 16 a 17 oed, gan helpu pobl ifanc i feithrin y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i fod yn ddinasyddion gweithredol.

“Gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), mae’n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynnwys y rhai ieuengaf yn y broses a’r ddadl.”
Tim Morgan, Ymgeisydd Seneddol 2024 dros y Blaid Werdd
“Mae’n ffordd wych i bobl ifanc ddysgu am wleidyddiaeth a gwneud penderfyniadau, gan eu paratoi ar gyfer pan fyddan nhw’n gallu pleidleisio yn 16 oed.”
Carolyn Thomas AS, Llafur