Wrth y Bwrdd
Croeso i dudalen y rhaglen ar gyfer adnoddau Wrth y Bwrdd. Yma gallwch ddod o hyd i adnoddau dysgu a deunyddiau cymorth sydd eu hangen i gyflwyno Wrth y Bwrdd.


Mewngofnodi yn ofynnol
Mae angen i chi fewngofnodi i weld y cynnwys hwn. Mewngofnodwch neu crëwch gyfrif.
Mae cofrestru yn rhoi mynediad i chi at adnoddau, dysgu ar-lein a chymorth sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddarparu addysg wleidyddol o ansawdd uchel.
Cyflwyno'r rhaglen

Mae Wrth y Bwrdd wedi'i gynllunio ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc 14 oed a hŷn mewn lleoliadau anffurfiol, i gysylltu â gwleidyddiaeth, democratiaeth a sut y gallant sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.
Mae Wrth y Bwrdd yn cynnwys gemau, ac wedi'i gynllunio i gael ei gyflwyno gan ymarferwyr ieuenctid, neu bobl ifanc.
Mae'r pecyn cymorth hwn yn arbennig o addas ar gyfer ymarferwyr ieuenctid a phobl ifanc sydd eisiau cychwyn trafodaethau am ddemocratiaeth, profiadau byw a chymunedau lleol; neu helpu pobl ifanc i feithrin hyder ac ymdeimlad cryfach o rym ac asiantaeth.
Mae Pecyn Cymorth Wrth y Bwrdd yn cynnwys:
- Cyngor hwyluso ar gael sgyrsiau gyda phobl ifanc am wleidyddiaeth a democratiaeth.
- Tri thorrwr iâ.
- Naw gêm a gweithgaredd.



