
Archwilio Etholiadau - Gweithdy - Lloegr
Yn y gwasanaeth Archwilio Etholiadau, cefnogir myfyrwyr i gofrestru i bleidleisio. Maent hefyd yn dysgu beth yw pwrpas etholiadau, a sut mae etholiadau yn gyfle i bobl ifanc ddweud eu dweud ynghylch sut mae eu cymuned neu wlad yn cael ei harwain. Gellir cyflwyno'r gweithdy mewn 45 i 60 munud. Mae'r rheolau ynghylch pwy sy'n gymwys i bleidleisio yn wahanol ym mhob un o'r pedair gwlad - gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio'r gwasanaeth Archwilio Etholiadau cywir ar gyfer eich gwlad. Dyma'r pecyn sleidiau ar gyfer Lloegr.



