
Archwilio Etholiadau - Cynulliad - Cymru
Yng nghynulliad Archwilio Etholiadau, cefnogir myfyrwyr i gofrestru i bleidleisio. Maent hefyd yn dysgu beth yw pwrpas etholiadau, a sut mae etholiadau yn gyfle i bobl ifanc ddweud eu dweud ynghylch sut mae eu cymuned neu wlad yn cael ei harwain. Gellir cyflwyno'r cynulliad mewn 20 i 30 munud. Mae'r rheolau ynghylch pwy sy'n gymwys i bleidleisio yn wahanol ym mhob un o'r pedair gwlad - gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r cynulliad Archwilio Etholiadau cywir ar gyfer eich gwlad. Dyma'r pecyn sleidiau ar gyfer Cymru.


