
Deialog Ddigidol: Hyfforddiant Athrawon Cymru
Mae Deialog Ddigidol: Cymru yn cefnogi dysgwyr ledled Cymru i gael sgyrsiau ystyrlon gyda'u cynrychiolwyr etholedig. Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r rhaglen yn cefnogi dysgwyr Bl5 i 13 i gymryd rhan mewn sesiynau Deialog gyda'r gwleidyddion sy'n eu cynrychioli, gan feithrin ymddiriedaeth a pherthnasoedd ar y ddwy ochr a rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen ar bobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Mae'r rhaglen yn rhad ac am ddim i ysgolion.
Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio ar gyfer athrawon sydd â diddordeb mewn cyflwyno'r rhaglen yn eu hysgol neu goleg.
Yn y sesiwn hyfforddi hon, bydd y Prosiect Gwleidyddiaeth yn esbonio sut mae'r rhaglen yn gweithio ac yn rhoi awgrymiadau i gefnogi dysgwyr i baratoi ar gyfer eu sesiwn ddeialog gyda gwleidydd.

